Cove, Swansea
Free
CROESO CYMRAEG
Croeso i Brifysgol Abertawe! Ar nos Fawrth, Medi 24ain mae’r Undeb Myfyrwyr ac Academi Hywel Teifi yn dy wahodd i ddigwyddiad cyntaf cyfrwng Cymraeg eleni yn y Cove, Campws Singleton rhwng 6-8yh ar gyfer ein digwyddiad Croeso Cymraeg – Pitsa a Peint!
Mae hwn yn gyfle gwych i ti gyfarfod Cymry Cymraeg eraill yn y brifysgol. Bydd yn gyfle i ti ddysgu mwy am gyfleoedd a’r Gymdeithas Gymraeg ar ein campws a’r holl gymdeithasau eraill megis Clwb Rygbi Tawe, y Gymdeithas Feddygol Gymraeg ac Aelwyd yr Elyrch.
Mi fydd pitsa, diod, cerddoriaeth a chroeso cynnes AM DDIM – felly gwna’n siŵr i archebu dy docyn drwy ddilyn y linc isod.
I ddysgu mwy am y digwyddiad cer draw i Instagram Carys Dukes, Swyddog Materion Cymraeg - @susucymraeg
Cove, Sketty, Swansea SA2 8PP